Sion a Siân yn dathlu’r 50!
Eleni mae’r cwis poblogaidd Sion a Siân yn dathlu’r 50.
Pan gafodd Dylan Jones sgwrs ddiweddar ar ei raglen radio gyda dau o’r cyflwynwyr mwyaf poblogaidd, Dai Jones & Jenni Ogwen, cymaint bu’r ymateb fel ein bod wedi penderfynu ail greu’r wefr am un noson a recordio rhifyn arbennig ar gyfer S4C y Nadolig hwn.
Bydd y rhaglen yn cael ei recordio ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar nos Iau Rhagfyr 4ydd am 1900 o flaen cynulleidfa
Rydym yn chwilo am 3 pâr sydd wedi cystadlu o’r blaen ac sydd ffansi dod yn ôl er mwyn ail greu talp o hanes darlledu yng Nghymru – yn ddelfrydol parau ar draws gwahanol ddegawdau, er engraifft y 70au,80au,90au.
- Oes gennych chi ffansi ail fyw eich ieuenctid ffôl?
- Oes gennych chi straeon neu atgofion arbennig am y gyfres?
- Oes gennych chi blat/llwy garu/cwpan Sion a Siân ar eich dresser neu yn yr atic?
- Ydach chi ffansi ymuno yn yr hwyl a bod yn rhan o’r gynulledifa?
Os mai ie ydi’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod yna cysylltwch â ITV Cymru ar y rhif isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu gyda chi am sgwrs bellach
0844 881 0266