Cystadleuaeth newydd i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg pobl ifanc
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cystadleuaeth newydd i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg pobl ifanc.
TESTUN Y GYSTADLEUAETH
Cystadleuaeth NEWYDD #PethauBychain
Wyt ti rhwng 14 a 25?
Eisiau ennill Iphone 6?
Be’ am roi tro ar gystadleuaeth
#PethauBychain
Dyma be’ sydd angen i ti wneud:
Tynna lun neu gwna fideo o’r
#PethauBychain ’rwyt ti’n gwneud
yn y Gymraeg e.e, fideo ohonot
ti a dy ffrindiau yn mwynhau
defnyddio’r Gymraeg mewn siop,
mewn gig, gêm rygbi/ pêl droed
neu’n cymdeithasu…
Rho dy lun / fideo ar Facebook neu Twitter a chofia gynnwys #PethauBychain yn dy neges.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2014
Twitter: @iaithfyw
Facebook/Cymraeg