Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro
Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro
6 yr hwyr nos Iau Hydref yr 16eg, 2014
Eglwys yr Holl Saint, Porthcawl
£5 i Oedolion Plant am Ddim
Yr Ŵyl Gerdd Dant cenedlaethol yw gŵyl undydd mwyaf Cymru ac mae’n ddathliad o ddiwylliant Cymreig. Pob mis Tachwedd mae mwy na 1,200 o blant, pobl ifanc ac oedolion o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn cymryd rhan mewn cystadlaethau sy’n amrywio o ganu gwerin Cymreig, i gerdd dant, adrodd, unawdau offerynnol ac ensemblau i ddawnsio gwerin. Mae’r Ŵyl Gerdd Dant hefyd yn denu dros 2,500 o gefnogwyr, gyda tua 50% ohonynt yn aros ym mro’r Ŵyl dros y penwythnos. Bydd y digwyddiad yn dwyn sylw sylweddol i’r ardal gan y bydd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu ac ar y radio drwy gydol y dydd.
Mae rhaglen y gyngerdd cyhoeddi yn un amrywiol iawn gydag ysgolion Cyfrwng Cymraeg y fwrdeistref yn perfformio arlwy diddorol ar y cŷd â Chantorion Coeti a Dawnswyr Penyfai. Bydd Aelwyd yr Urdd Porthcawl hefyd yn perfformio ac yn datgan cywydd croeso y prifardd Mari George.
Bydd elw’r noson yn mynd tuag at ymgyrch codi arian Gwyl Cerdd Dant Porthcawl a’r Fro 2015.
Tocynnau ar gael o Siop yr Hen Bont ysgolion Cymraeg Bwrdeistref Sirol Penybont neu wrth y drws.