Dyn y Groggs
Bu farw John Hughes o Bontypridd yn 79 oed ar ôl gwaeledd hir. Daeth yn enwog drwy gynllunio ei grochenwaith Groggs o sêr rygbi Cymru fel Ray Gravelle, Gareth Edwards a Phil Bennett yn ogystal ac enwogion eraill.
Sefydlodd ei fusnes mewn hen dafarn yn y Broadway, Pontypridd, ac mae’n gyrchfan i llu o dwristiaid a phobl leol.
Roedd Mr Hughes yn gefnogwr rygbi brwd ac yn cefnogi ei dîm lleol, Clwb Rygbi Pontypridd.