Cyngerdd Sinfonia Cymru
CERDDORION IFANC CYMRUâN ACHUB Y BLAEN AR Y LLWYFAN AC ODDI AR Y LLWYFAN MEWN PREMIERE BYD-EANG
Ar y 4ydd o Orffennaf 2013 mi fydd cerddorfa siambr fwyaf blaengar Cymru, Sinfonia Cymru, sydd aâi swyddfa ym Mhentyrch, yn perfformio premiere byd-eang o ddarn newydd gan Mark David Boden, syân raddedig oâr Coleg Cerdd a Drama ac sydd yn Ă´l Theatr Gerddorol Cymru yn âun o ddoniau newydd disgleiriaf Cymruâ.
Mae âChaconne for Stringsâ yn rhan o daith haf arloesol Sinfonia Cymru, âClassic Conversationââ, syân rhaglen o ddarnau bywiog, cyffrous ac amrywiol ar gyfer y gerddorfa a luniwyd gan y cerddorion eu hunain, mewn cydweithrediad ââr arweinydd Gareth Jones. Maeâr syniad ymaân adlewyrchu meddylfryd y gerddorfa o rymuso cerddorion ifanc ac o ddemocrateiddio diwylliant cerddoriaeth glasurol.
Yn Ă´l Sophie Lewis, rheolwr Sinfonia Cymru, âRydym niân torri tir newydd drwy alluogi ein cerddorion ifanc i ddewis beth maen nhw am ei chwarae. Maeân gam diwylliannol pwysig, ond hefyd maeân rhan oân hymroddiad i ddatblygu galluoedd cerddorion ifanc ac i sicrhau fod Cymru ymhlith y llefydd gorau yn y byd i ddechrau gyrfa glasurol.
âMae cerddorion Sinfonia Cymruân teimlo dyletswydd angerddol i amlygu doniau eu cyd-gerddorion sydd, fel nhw, ar ddechrauâr llwybr. Mae Mark, sydd wedi astudio yn y Coleg Cerdd a Drama ac sydd wedi ennill gwobr William Mathias Cyfansoddwyr Cymru, yn un oâr rheiniân bendantâ, ychwanegodd Sophie.
Er ei fod yn ddyn ifanc, mae Mark yn hen gyfarwydd ââr Sinfonia ers ei ddyddiau cyntaf yn y Coleg Cerdd a Drama. âRydw i wedi mwynhau cyngherddau Sinfonia Cymru ers y cychwyn, ac yn edmyguâr ffordd maen nhwân dehongli darnau amrywiol mewn ffordd mor drawiadol o gyffrous ac egnĂŻol. Y rhinweddau yma ddaru fy ysbrydoli i gyfansoddiâr darn yma ar eu cyfer, ac rwyân ddiolchgar iawn am yr anrhydedd maen nhw wedi ei roi i miâ.
Daw taith âClassic Conversationâ yn fuan ar Ă´l lansio âSinfonia Cymru: Curateâ; cynllun syân cydnabod galluoedd technegol cerddorion ond hefyd eu doniau creadigol amrywiol ac uchel. Yn Ă´l Sophie, âmae Curate yn ffordd newydd o ystyried y cerddor, a fydd yn dylanwadu ar y gerddorfa yn y dyfodolâ.
Maeâr daith pedair cyngerdd yn dechrau yn y Coleg Cerdd a Drama am 7.30pm ar nos Iau, y 4ydd o Orffennaf 2013, ac yna yng Nghasnewydd, Caernarfon aâr Wyddgrug rhwng y 5ed aâr 7fed o Orfennaf. Mi fydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Stravinsky, Beethoven, a pherfformiad llawn prin o Y Fam Ĺ´ydd gan Ravel.